Cymdeithas Hanes Bro Ogwr

Directions Contact the organisation

Cymdeithas Hanes Bro Ogwr Sgyrsiau am hanes a diwylliant Cymreig i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Talks in Welsh about Welsh history and culture for Welsh speakers and learners.

Ar hyn o bryd mae'r cyfarfodydd ar Zoom. Yn y dyfodol dyn ni'n bwriadu i gwrdd gydag ein gilydd. Fel arfer mae geirfa ar gael i helpu dysgwyr gyda geiriau anadnabyddus neu y darlithwyr yn eu cyfieithu yn ystod y sgwrs. Mae'r sgyrsiau yn addas am ddysgwyr lefel Canolradd neu Uwch.

CWTH 9 gan Tim Rhys YN SAESNEGCyfarwyddwyd gan Chris DurnallSgôr fyw wreiddiol wedi'i pherfformio gan Stacey BlytheGoleu...
04/10/2026

CWTH 9 gan Tim Rhys

YN SAESNEG

Cyfarwyddwyd gan Chris Durnall

Sgôr fyw wreiddiol wedi'i pherfformio gan Stacey Blythe

Goleuo gan Ceri James

Dyluniwyd gan Lydia Durnall

“Stori sydd wedi’i Gwreiddio yng Ngorffennol Pen-y-bont ar Ogwr — ac yn Dychmygu Ei Dyfodol”

Pen-y-bont ar Ogwr Cymru — Tachwedd 1945. Ar noson 10 Mawrth, cynhaliodd nifer o swyddogion uchel eu statws yn yr Almaen un o ymdrechion dianc mwyaf beiddgar yr Ail Ryfel Byd, gan dyllu allan o wersyll carcharorion rhyfel yn Island Farm. Ffodd saith deg o garcharorion i gefn gwlad o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr. Sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Pen-y-bont ar Ogwr Cymru – Tachwedd 2035. Mewn dyfodol agos dystopiaidd lle mae dronau’n llenwi’r awyr, olew wedi’i wahardd, cartrefi’n gorwedd yn rhannol o dan y dŵr oherwydd dinistr hinsawdd, a rheolaeth awdurdodaidd yn tynhau ei gafael, mae grŵp o bobl yn dod i’r amlwg i olau llym gwersyll ffoaduriaid.

Mae HUT 9 yn archwilio'r seicoleg sy'n caniatáu i ffasgiaeth ymsefydlu, erydiad rhyddid sifil, a'r strategaethau tawel y mae pobl yn eu defnyddio i oroesi o dan reolaeth awdurdodaidd. Daw'r twnnel drwg-enwog yn gyswllt theatrig pwerus rhwng y gorffennol a'r dyfodol - rhwng carcharu a dianc, gormes a gwrthwynebiad.

Mae Company of Sirens yn dilyn taith Cymru gyfan glodwiw Water Wars gan Ian Rowlands, a bleidleisiwyd yn Theatr Orau Cymru 2025 gan The Stage.

Mae Tanio yn dod â chysylltiadau gwaelodol dwfn o fewn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddarparu profiadau celfyddydol o ansawdd uchel yn enwedig i gymunedau mewn ardaloedd difreintiedig yn economaidd yn Ne Cymru.

Bydd perfformiad gan gôr Cymunedol a dangosiad o animeiddiad tywod unigryw yn digwydd yn ardal y cyntedd cyn y perfformiad.

Addas ar gyfer 14+.

Amser rhedeg bras 90 munud

Archebu Nawr
Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2026 at 8: 00 pm - 9: 10 pm
Archebu
Dydd Iau, 19 Tachwedd 2026 at 11: 30 yb - 12: 40 pm
Archebu
Dydd Iau, 19 Tachwedd 2026 at 8: 00 pm - 9: 10 pm
Archebu
Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026 at 8: 00 pm - 9: 10 pm
Archebu
Rhannwch y digwyddiad hwn:

Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2026
Maesteg Town Hall
8: 00 pm - 9: 10 pm
Archebu y digwyddiad hwn

Dydd Iau, 19 Tachwedd 2026

Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026
Prisiau
Cydymaith Hanfodol HYNT (Gostyngiad wrth y ddesg dalu): £12.50
Dros 60 oed / Dros 60 Oed: £11.50
Safonol / Cyffredinol: £12.50
Dan 16 oed / Dan 16 Oed: £11.50
Arweiniad oedran

CWTH 9 gan Tim Rhys 

Dyma ein rhaglen ar gyfer 2026-202712 HydrefPwy oedd Myrddin go iawn?David Callander ar Zoom9 TachweddRichard BurtonDani...
04/10/2026

Dyma ein rhaglen ar gyfer 2026-2027

12 Hydref
Pwy oedd Myrddin go iawn?
David Callander ar Zoom

9 Tachwedd
Richard Burton
Daniel Williams ar Zoom

14 Rhagfyr
Parti Nadolig yn y Tair Pedol

11 Ionawr
Dilynwch y Menywod
Olwen Moseley ar Zoom

8 Chwefror
Rhyfel Annibyniaeth yn America
Gareth Hallett Davies ar Zoom

8 Mawrth
Campau Celtaitdd
Stephen Lake yn y Tair Pedol ac ar Zoom

10 Ma
Llanfleddian - Cerfidiau Bedd Canoloesol
Ymweliad yr Haf gyda Maddy Grey

14 Mehefin
Ymweliad yr Haf 2 - i gadarnhau

13 Medi
Adnabod nid Gwybod - Oes Rufeinig
Richard Cleaves yn y Tair Pedol ac ar Zoom

11 Hydref
Emynau Ann Griffiths
Dr Elin Jones ar Zoom

8 Tachwedd
Y Cyfnod Modern Cynnar
Dewi Alter

13 Rhagfyr
Parti Nadolig yn Y Tair Pedol

Digwyddiad nesaf - Nos Lun, 12 Hydref – David Callander yn siarad am ‘Pwy oedd Myrddin go iawn’. Os bydd diddordeb gyda ...
04/10/2026

Digwyddiad nesaf - Nos Lun, 12 Hydref – David Callander yn siarad am ‘Pwy oedd Myrddin go iawn’. Os bydd diddordeb gyda chi, rhowch wybod i mi, [email protected]

Ym Mis Medi roedd Allan James yn siarad am ‘Iolo Morganwg a Gwerin Morgannwg’. Dyma'r adolygiad gan Nesta Humphreys.

Edward Williams (Iolo Morganwg) 1747-1826. Saer maen fel ei dad oedd Iolo, ond hefyd roedd e’n ysgolhaig, bardd a chasglwr llawysgrifau. Teimlai Iolo fod e’n bwysig dilyn traddodiadau gwerin ei ardal ym Morgannwg a chafodd effaith barhaol ar ddiwylliant Morgannwg a Chymru yn rhannol drwy sefydlu’r Orsedd, a ddaeth yn gysylltiedig â’r Eisteddfod.

Diolch yn fawr iawn i Allan am ei sgwrs ddiddorol. Roedd y sgwrs yn llwyddiannus iawn gyda 31 o bobl yn Y Tair Pedol, Cefn Cribwr neu ar Zoom.

Wrth gwrs mae llawer o bobl yn gwybod tipyn bach neu mwy am Iolo, ac roedd yn hyfryd i gael sgwrs amdano fe yn enwedig gan mai eleni ydy’r daucanmlwyddiant ei farwolaeth a chysylltiad Iolo â’n hardal ni.

Siaradodd Allan am y dylanwadau ar Iolo yn ystod ei fywyd cynnar. Cafodd Iolo ei eni ger Llancarfan ym Mro Morgannwg. Saer maen oedd ei dad ac o dras uchel oedd ei fam. Roedd cefndir ei fam yn golygu ei bod hi’n gallu darllen, ysgrifennu a siarad Saesneg. Ar adeg pan oedd cyfleoedd addysg yn brin i ddosbarthiadau penodol, dysgodd hi Iolo i ddarllen, ysgrifennu a siarad Saesneg yn ogystal â’i iaith frodorol, y Gymraeg.

Cafodd ei fam ddylanwad mawr arno fe a chafodd Iolo ddylanwadau pwysig gan ysgolheigion lleol fel Thomas Richards a luniodd eiriadur Cymraeg-Saesneg a John Walters a luniodd eiriadur Saesneg-Cymraeg. Roedd John Walters yn awyddus i bwysleisio wrth y bonedd Cymreig dylen nhw barchu’r iaith Gymraeg.

Mae’n ymddangos na allai Iolo wrthsefyll y demtasiwn i newid rhywbeth neu ddyfeisio rhywbeth yn ei waith ysgrifenedig. Yn ôl Iolo roedd y syniad o’r Orsedd yn seiliedig ar urdd dderwyddol hynafol honedig ond nad oes tystiolaeth ohoni. Fodd bynnag, mae’r Orsedd wedi datblygu’n sefydliad pwysig sy’n coleddu’r iaith Gymraeg ac mae ei haelodau’n bobl sy wedi cyfrannu at yr iaith a diwylliant Cymru.

Roedd Iolo ganrif ar flaen ei gyfnod wrth gwyno bod Cymru’n genedl heb Amgueddfa Genedlaethol na Llyfrgell Genedlaethol. Doedd dim prifysgol yng Nghymru nes i Aberystwyth ar agor ym 1872.

Casglodd Iolo gasgliad enfawr o lawysgrifau trwy ymweld â phlastai ledled Cymru. Byddai llawer o lawysgrifau wedi mynd ar goll hebddo, ac am flynyddoedd ni heriodd neb dilysrwydd y llawysgrifau. Tuag at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr academydd, Syr John Morris-Jones, oedd y cyntaf i godi amheuaeth ar waith Iolo ac i’w labelu’n ffugiwr. Yn ddiweddarach penderfynodd academydd arall, Griffith John Williams, wneud mwy o waith i ganfod faint o’r gwaith oedd yn ganlyniad dychymyg yn hytrach na ffaith. Roedd e’n amddiffynnydd ac yn feirniad Iolo.

Mae ymchwil i waith Iolo yn parhau, ond yn y pen draw gellir ei gofio'n gadarnhaol am sefydlu'r Orsedd, a gysylltwyd ag Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1819. Mae hon yn parhau fel rhan bwysig o ddiwylliant Cymru, er gwaethaf y feirniadaeth o lawer o'i waith.

Digwyddiad nesaf - Nos Lun, 12 Hydref – David Callander yn siarad am ‘Pwy oedd Myrddin go iawn’. Os bydd diddordeb gyda chi, rhowch wybod i mi, [email protected]

Mae llawer iawn o bethau yn mynd ymlaen trwy'r Mis Medi ym Mis Hanes Ogwr.Mae un cyfarfod yn y Gymraed i ddod. Dydd Mawr...
20/09/2026

Mae llawer iawn o bethau yn mynd ymlaen trwy'r Mis Medi ym Mis Hanes Ogwr.

Mae un cyfarfod yn y Gymraed i ddod.

Dydd Mawrth, 29 Medi 2-00 - Ffrwydrad Parc Slip gyda Mike Clubb yn Llyfrgell Abercynffig. Mynediad am ddim, rhaid archebu lle oddi wrth Awen Box Office.

Bydd Richard Cleaves yn gwneud sgwrs yn Saesneg yn Llyfrgell Pencoed, Ddydd Gwener 25 Medi, 11-00: So that's what writing was like 2000 years ago! Free admission, booking required from Awen Box Office.

Diolch o'r galon i bawb a oedd yn gwneud ein harddangosfa yn llwyddianus Dydd Sadwrn, ac yn arbennig i Gareth Thomas, Jane Harries, John Jeremy ac Eddie Morgan, ein siaradwyr. Diolch i'r llyfrgell Awen, ac i Kathy Jones, Dysgu Cymraeg am ddod hefyd, ac i Gareth Jones a Chymdeithas Owain Glyndwr am fenthyca'r arwyddion.

Mae'r arddangosfa Celf, David Robinson, ar agor Dydd Llun, Ddydd Mercher, Ddydd Sadwrn tan 3 Hydref yng Nghapel y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr: ‘Mae’n Werth y Byd’ - Arddangosfa Celf David Robinson

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, gan gynnwys manylion archebu, ar gael ar ein gwefan: awenboxoffice.com
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddigwyddiad,
gallwch chi naill ai gysylltu â lleoliad y digwyddiad penodol,
neu e-bostio: [email protected]
Dyma'r rhaglen llawn yn y Gymraeg
https://l.facebook.com/l.php?u=https%3A%2F%2Fresources.awen-wales.com%2FOgwr_History_Month_Programme_2026_Welsh.pdf%3Ffbclid%3DIwZXh0bgNhZW0CMTAAc3J0YwZhcHBfaWQQMjIyMDM5MTc4ODIwMDg5MgABHjdbxtmjCI2LU6koYbS18xzzgSJrtJPM6nEGR4apGKIDT1yIYtKO7BwO5GcP_aem_ILywWOzSqLjQt97dGNwSVQ&h=AUDsJ8aZWEejzRWiEME5w1JquQ672fAARv-p9wOgc9XRYIXUfltMFsunhMFPlFP_lqVPHntGaWY8HAKHDmeo6GfLvPbkWtWtYHTcDAcbiaORF76_qcFa6Pz4vWzvHNRZ5eQGT-oKj3rWKw&__tn__=-UK-R&c[0]=AUDmRX4u-iYetYkQQPadISZx4NkUHyhujBXmgrmvi07LSocXFBz2oKQ-CP7hl6nQWuB-KIXi9M557O8LBBaAa0cRFvDzTS1d5mMDc3zYhBXdTRWZAUJUplzXJacUMescwkKc7LVoqZDNjwQ6YdWZJ6GNRFzfI6RWJ4DEqGowYYY6OAFPeroJpXO1dvPHXc4
Here's the English language programme
https://resources.awen-wales.com/Ogwr_History_Month

Mae Mis Hanes wedi dechrau!Cofiwch gyfarfodydd yn y Gymraeg.Nos Lun, 14 Medi, 7-30 Y Tair Pedol, Cefn Cribwr, Iolo Morga...
17/09/2026

Mae Mis Hanes wedi dechrau!
Cofiwch gyfarfodydd yn y Gymraeg.
Nos Lun, 14 Medi, 7-30 Y Tair Pedol, Cefn Cribwr, Iolo Morganwg a Gwerin Morgannwg efo Allan James.
Prynhawn Mercher, 16 Medi, 2-00, sgwrs efo Richard Cleaves. Felly dyna sut oedd pobl yn ysgrifennu 2000 o flynyddoedd yn ôl!. Yn y Llyfrgell, Porthcawl. Bydd Richard yn cyflwyno tabledi ysgrifennu Bloomberg, Vindolanda ac Uley. Mae'r tabledi hyn yn agor ffenestr i fyd y Celtiaid a'r Rhufeiniaid ym Mhrydain 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r sgwrs hon yn gysylltiedig â llyfr Richard a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y pwnc diddorol iawn.
Ddydd Sadwrn 19 Medi 10-00 tan 4-00 ein harddangosfa efo Siop Sionc Cant a Mil. Neuadd Tabernacl, Lon Elder, Pen-y-bont ar Ogwr. Dyma ran o'r Pen-y-bont Ar Agor - bydd adeiladau, capeli, eglwysi ar agor trwy'r dydd. Bydd arddangosfa celf efo David Robinson hefyd yn y Tabernacl Pen-y-bont.

Dyma'r Amserlen yr Arddangosfa

10-00 Agor yr Arddangosfa
10-30 Dylanwad Iolo Morganwg ar ein bywydau cyfoes
– sgwrs gan Gareth Thomas
11-30 A Oes Heddwch? – sgwrs gan Jane Harris
12-30 Iolo Morganwg a Menywod – sgwrs gan Gareth Thomas
1-30 Siôn Bradford, Iolo a’r Fro Ogwr – sgwrs gan John Jeremy
2-00 ay Prynhawn Masnach Deg efo Sussed, Porthcawl Museum

Trwy’r Dydd ‘Mae’n Werth y Byd’ - Arddangosfa Celf David Robinson

Gwybodaeth am Ddysgu Cymraeg ac am ein Lyfrgelloedd

https://resources.awen-wales.com/Ogwr_History_Month See less

Dydd Glyndŵr Hapus! - Happy Glyndŵr Day!Cofiwch ein harddangosfa, Ddydd Sadwrn!
17/09/2026

Dydd Glyndŵr Hapus! - Happy Glyndŵr Day!

Cofiwch ein harddangosfa, Ddydd Sadwrn!

Mae Mis Hanes wedi dechrau!Cofiwch gyfarfodydd yn y Gymraeg.Nos Lun, 14 Medi, 7-30 Y Tair Pedol, Cefn Cribwr, Iolo Morga...
13/09/2026

Mae Mis Hanes wedi dechrau!

Cofiwch gyfarfodydd yn y Gymraeg.

Nos Lun, 14 Medi, 7-30 Y Tair Pedol, Cefn Cribwr, Iolo Morganwg a Gwerin Morgannwg efo Allan James.

Prynhawn Mercher, 16 Medi, 2-00, sgwrs efo Richard Cleaves. Felly dyna sut oedd pobl yn ysgrifennu 2000 o flynyddoedd yn ôl!. Yn y Llyfrgell, Porthcawl. Bydd Richard yn cyflwyno tabledi ysgrifennu Bloomberg, Vindolanda ac Uley. Mae'r tabledi hyn yn agor ffenestr i fyd y Celtiaid a'r Rhufeiniaid ym Mhrydain 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r sgwrs hon yn gysylltiedig â llyfr Richard a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y pwnc diddorol iawn.

Ddydd Sadwrn 19 Medi 10-00 tan 4-00 ein harddangosfa efo Siop Sionc Cant a Mil. Neuadd Tabernacl, Lon Elder, Pen-y-bont ar Ogwr. Dyma ran o'r Pen-y-bont Ar Agor - bydd adeiladau, capeli, eglwysi ar agor trwy'r dydd. Bydd arddangosfa celf efo David Robinson hefyd yn y Tabernacl Pen-y-bont.

Dyma'r Amserlen yr Arddangosfa

10-00 Agor yr Arddangosfa
10-30 Dylanwad Iolo Morganwg ar ein bywydau cyfoes
– sgwrs gan Gareth Thomas
11-30 A Oes Heddwch? – sgwrs gan Jane Harris
12-30 Iolo Morganwg a Menywod – sgwrs gan Gareth Thomas
1-30 Siôn Bradford, Iolo a’r Fro Ogwr – sgwrs gan John Jeremy
2-00 ay Prynhawn Masnach Deg efo Sussed, Porthcawl
Trwy’r Dydd ‘Mae’n Werth y Byd’ - Arddangosfa Celf David Robinson
Gwybodaeth am Ddysgu Cymraeg ac am ein Lyfrgelloedd

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, gan gynnwys manylion archebu, ar gael ar ein gwefan: awenboxoffice.com
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddigwyddiad,
gallwch chi naill ai gysylltu â lleoliad y digwyddiad penodol,
neu e-bostio: [email protected]
Dyma'r rhaglen llawn yn y Gymraeg
https://l.facebook.com/l.php?u=https%3A%2F%2Fresources.awen-wales.com%2FOgwr_History_Month_Programme_2026_Welsh.pdf%3Ffbclid%3DIwZXh0bgNhZW0CMTAAc3J0YwZhcHBfaWQQMjIyMDM5MTc4ODIwMDg5MgABHjdbxtmjCI2LU6koYbS18xzzgSJrtJPM6nEGR4apGKIDT1yIYtKO7BwO5GcP_aem_ILywWOzSqLjQt97dGNwSVQ&h=AUDsJ8aZWEejzRWiEME5w1JquQ672fAARv-p9wOgc9XRYIXUfltMFsunhMFPlFP_lqVPHntGaWY8HAKHDmeo6GfLvPbkWtWtYHTcDAcbiaORF76_qcFa6Pz4vWzvHNRZ5eQGT-oKj3rWKw&__tn__=-UK-R&c[0]=AUDmRX4u-iYetYkQQPadISZx4NkUHyhujBXmgrmvi07LSocXFBz2oKQ-CP7hl6nQWuB-KIXi9M557O8LBBaAa0cRFvDzTS1d5mMDc3zYhBXdTRWZAUJUplzXJacUMescwkKc7LVoqZDNjwQ6YdWZJ6GNRFzfI6RWJ4DEqGowYYY6OAFPeroJpXO1dvPHXc4
Here's the English language programme
https://resources.awen-wales.com/Ogwr_History_Month

Mae Mis Hanes wedi dechrau!Cofiwch gyfarfodydd yn y Gymraeg.Nos Lun, 14 Medi, 7-30 Y Tair Pedol, Cefn Cribwr, Iolo Morga...
10/09/2026

Mae Mis Hanes wedi dechrau!
Cofiwch gyfarfodydd yn y Gymraeg.

Nos Lun, 14 Medi, 7-30 Y Tair Pedol, Cefn Cribwr, Iolo Morganwg a Gwerin Morgannwg efo Allan James.

Prynhawn Mercher, 16 Medi, 2-00, sgwrs efo Richard Cleaves. Felly dyna sut oedd pobl yn ysgrifennu 2000 o flynyddoedd yn ôl!. Yn y Llyfrgell, Porthcawl. Bydd Richard yn cyflwyno tabledi ysgrifennu Bloomberg, Vindolanda ac Uley. Mae'r tabledi hyn yn agor ffenestr i fyd y Celtiaid a'r Rhufeiniaid ym Mhrydain 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r sgwrs hon yn gysylltiedig â llyfr Richard a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y pwnc diddorol iawn.

Ddydd Sadwrn 19 Medi 10-00 tan 4-00 ein harddangosfa efo Siop Sionc Cant a Mil. Neuadd Tabernacl, Lon Elder, Pen-y-bont ar Ogwr. Dyma ran o'r Pen-y-bont Ar Agor - bydd adeiladau, capeli, eglwysi ar agor trwy'r dydd. Bydd arddangosfa celf efo David Robinson hefyd yn y Tabernacl Pen-y-bont.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, gan gynnwys manylion archebu, ar gael ar ein gwefan: awenboxoffice.com
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddigwyddiad,
gallwch chi naill ai gysylltu â lleoliad y digwyddiad penodol,
neu e-bostio: [email protected]

Dyma'r rhaglen llawn yn y Gymraeg
https://l.facebook.com/l.php?u=https%3A%2F%2Fresources.awen-wales.com%2FOgwr_History_Month_Programme_2026_Welsh.pdf%3Ffbclid%3DIwZXh0bgNhZW0CMTAAc3J0YwZhcHBfaWQQMjIyMDM5MTc4ODIwMDg5MgABHjdbxtmjCI2LU6koYbS18xzzgSJrtJPM6nEGR4apGKIDT1yIYtKO7BwO5GcP_aem_ILywWOzSqLjQt97dGNwSVQ&h=AUDsJ8aZWEejzRWiEME5w1JquQ672fAARv-p9wOgc9XRYIXUfltMFsunhMFPlFP_lqVPHntGaWY8HAKHDmeo6GfLvPbkWtWtYHTcDAcbiaORF76_qcFa6Pz4vWzvHNRZ5eQGT-oKj3rWKw&__tn__=-UK-R&c[0]=AUDmRX4u-iYetYkQQPadISZx4NkUHyhujBXmgrmvi07LSocXFBz2oKQ-CP7hl6nQWuB-KIXi9M557O8LBBaAa0cRFvDzTS1d5mMDc3zYhBXdTRWZAUJUplzXJacUMescwkKc7LVoqZDNjwQ6YdWZJ6GNRFzfI6RWJ4DEqGowYYY6OAFPeroJpXO1dvPHXc4
Here's the English language programme
https://resources.awen-wales.com/Ogwr_History_Month...

Sgwrs a Ffilm yn y Gymraeg wythnos yma yn y Mis Hanes. Ac ein cyfarfod ni ac ein Harddangosfa wythnos nesaf.Cofio Ann - ...
07/09/2026

Sgwrs a Ffilm yn y Gymraeg wythnos yma yn y Mis Hanes. Ac ein cyfarfod ni ac ein Harddangosfa wythnos nesaf.

Cofio Ann - efo Sian Meinir yn y Tafarn Gymunedol y Tair Pedol, Cefn Cribwr, Dydd Mawrth 8 Medi 7-00. Cyfle i werthfawrogi pwysigrwydd yr emynyddes o Gymru, Ann Griffiths, a'i gwaith wrth i ni ddathlu 250 mlynedd ers i geni.

Sinema: Patagonia, Y Bocs Oren, Neuadd y Dref Maesteg, Ddydd Mercher 9 Medi 1-00. Mae'r ffilm hon, sydd wedi'i gyfarwyddo gan Marc Evans ac y mae'r actor Matthew Rhys yn serennu ynddi, yn arcwilio hunaniaeth mewn dwy daith gyfochrog. Mae cwpl o Gymru yn teithio trwy Dde America yn chwilio am eu treftadaeth, tar bod menyw oedrannus o'r Ariannin yn ymweld a Chymru i olrhain ei gwreiddiau.

Nos Lun, 14 Medi, 7-30 Y Tair Pedol, Cefn Cribwr, Iolo Morganwg a Gwerin Morgannwg efo Allan James.

Ddydd Sadwrn 19 Medi 10-00 tan 4-00 ein harddangosfa efo Siop Sionc Cant a Mil.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau, gan gynnwys manylion archebu, ar gael ar ein gwefan: awenboxoffice.com
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddigwyddiad,
gallwch chi naill ai gysylltu â lleoliad y digwyddiad penodol,
neu e-bostio: [email protected]
Dyma'r rhaglen llawn yn y Gymraeg
https://l.facebook.com/l.php?u=https%3A%2F%2Fresources.awen-wales.com%2FOgwr_History_Month_Programme_2026_Welsh.pdf%3Ffbclid%3DIwZXh0bgNhZW0CMTAAc3J0YwZhcHBfaWQQMjIyMDM5MTc4ODIwMDg5MgABHjdbxtmjCI2LU6koYbS18xzzgSJrtJPM6nEGR4apGKIDT1yIYtKO7BwO5GcP_aem_ILywWOzSqLjQt97dGNwSVQ&h=AUDsJ8aZWEejzRWiEME5w1JquQ672fAARv-p9wOgc9XRYIXUfltMFsunhMFPlFP_lqVPHntGaWY8HAKHDmeo6GfLvPbkWtWtYHTcDAcbiaORF76_qcFa6Pz4vWzvHNRZ5eQGT-oKj3rWKw&__tn__=-UK-R&c[0]=AUDmRX4u-iYetYkQQPadISZx4NkUHyhujBXmgrmvi07LSocXFBz2oKQ-CP7hl6nQWuB-KIXi9M557O8LBBaAa0cRFvDzTS1d5mMDc3zYhBXdTRWZAUJUplzXJacUMescwkKc7LVoqZDNjwQ6YdWZJ6GNRFzfI6RWJ4DEqGowYYY6OAFPeroJpXO1dvPHXc4

Here's the English language programme
https://resources.awen-wales.com/Ogwr_History_Month...

Mis Hanes Ogwr.Rydym yn gwahodd pobl i archwilio'r straeon, y bobl a'r lleoedd diddorol sydd wedi llunio Bwrdeistref Sir...
11/08/2026

Mis Hanes Ogwr.

Rydym yn gwahodd pobl i archwilio'r straeon, y bobl a'r lleoedd diddorol sydd wedi llunio Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i Fis Hanes Ogwr ddychwelyd am ei drydedd flwyddyn ym mis Medi.

Wedi'i drefnu mewn partneriaeth â Rhwydwaith Treftadaeth Ogwr (gan gynnwys Cymdeithas Hanes Bro Ogwr), bydd y rhaglen ddigwyddiadau mis o hyd yn cynnwys sgyrsiau hanes, teithiau cerdded tywys, ffilmiau, arddangosfeydd, gweithdai i blant, arddangosfeydd a diwrnodau agored arbennig mewn lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol.

Mae'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau am ddim i fynychu, diolch i gyllid Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru, er bod angen archebu ymlaen llaw ar gyfer llawer o ddigwyddiadau. Mae tocynnau a manylion llawn ar gael o www.awenboxoffice.com neu Lyfrgell Hanes Lleol – Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Facebook.

Mae rhaglen eleni yn cynnwys amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar gyfer pob oed a diddordeb, o sgyrsiau arbenigol gan haneswyr a darlledwyr blaenllaw i weithdai sy'n addas i deuluoedd a chyfleoedd i ymweld â safleoedd hanesyddol nad ydynt bob amser ar agor i'r cyhoedd.

Mae uchafbwyntiau'n cynnwys noson gyda'r hanesydd diwylliannol, y darlledwr a'r awdur gwerthwr gorau Dr Janina Ramirez a sgyrsiau gan yr hanesydd, yr awdur a'r darlledwr yr Athro Kate Williams, a'r hanesydd a'r nofelydd hanesyddol, Ian Mortimer, sy'n fwyaf adnabyddus am ei gyfres Canllaw Teithwyr Amser sydd wedi gwerthu orau.

Gall cynulleidfaoedd hefyd fwynhau A Brief History of Music gan Green Matthews, yn ogystal â sgyrsiau ar hanes menywod yn Archifau Morganwg, Rhufeiniaid yng Nghymru, Norwyaid yng Nghymru, y Weithrediaeth Gweithrediadau Arbennig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a ffrwydrad Glofa Parc Slip.

Am y tro cyntaf eleni, bydd Mis Hanes Ogwr yn cynnwys cyfres o ddangosiadau sinema treftadaeth am ddim yn Y Bocs Oren yn Neuadd y Dref Maesteg, gan gynnwys 'Napoleon', 'Patagonia', 'Save the Cinema' a 'The Choral'.

I nodi 200 mlynedd ers marwolaeth Edward Williams, a adnabyddir yn well fel Iolo Morganwg, un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol a dadleuol yn hanes diwylliannol Cymru, bydd digwyddiadau gan gynnwys teithiau cerdded tywys, sgyrsiau yn y Gymraeg, adrodd straeon ac arddangosfeydd yn archwilio ei fywyd, ei etifeddiaeth a'i enw da.

Anogir teuluoedd i gymryd rhan yn y gweithgareddau, gyda gweithdai hanes i blant yn cael eu cyflwyno gan Weithdai Cymru'r Rhyfel Byd yn llyfrgelloedd Maesteg, Abercynffig, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a'r Pîl.
Mae'r sesiynau'n cynnwys themâu fel y Fictoriaid a Theganau Drwy'r Amseroedd, wedi'u hanelu at blant rhwng pump a 10 oed.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys Ogwr Datgloi: Dathlu Plentyndod, arddangosfa deithiol ryngweithiol am ddim sy'n archwilio straeon, gemau a theganau plentyndod lleol. Bydd yr arddangosfa'n ymweld â lleoliadau gan gynnwys Llyfrgell Pencoed, The Mem yn Nantymoel, Llyfrgell y Pîl a Chanolfan Bywyd Betws yn ystod mis Medi.

Bydd treftadaeth leol hefyd yn dod yn fyw trwy gyfres o deithiau cerdded tywysedig, gan gynnwys llwybrau o amgylch Gwaith Haearn Cefn Cribwr, Cefn Cribwr, Llangynwyd i Fynydd Margam, Cynffig a'r Sger, a Pharc Gwledig Bryngarw.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, bydd Mis Hanes Ogwr yn cynnwys diwrnodau agored am ddim mewn cydweithrediad â gŵyl Drysau Agored Cadw. Bydd Agor Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Sadwrn 19 Medi yn rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio safleoedd hanesyddol a lleoedd addoli ledled Pen-y-bont ar Ogwr, tra bydd Agor Ogwr ddydd Sadwrn 26 Medi yn gweld partneriaid treftadaeth yn agor safleoedd gan gynnwys Blwch Signal Cefn Cribwr, Amgueddfa Porthcawl, Hwb Treftadaeth Dyffryn Ogwr a Thŷ Sant Ioan.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Mae Mis Hanes Ogwr yn gyfle gwych i ddathlu treftadaeth gyfoethog ac amrywiol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac i ddod â phobl ynghyd trwy’r straeon, y lleoedd a’r atgofion sy’n ein cysylltu ni.

“Rydym wrth ein bodd yn gweithio unwaith eto gyda Rhwydwaith Treftadaeth Ogwr a phartneriaid lleol i gynnig rhaglen mor amrywiol o ddigwyddiadau. O sgyrsiau arbenigol a theithiau cerdded tywys i weithdai teuluol a diwrnodau agored, mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau.

“Rydym yn arbennig o falch, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, fod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau am ddim i fynychu, gan helpu i wneud hanes lleol yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl.”

Mae rhaglen lawn ar gael i'w lawrlwytho yma.

Yn y Gymraeg
https://l.facebook.com/l.php?u=https%3A%2F%2Fresources.awen-wales.com%2FOgwr_History_Month_Programme_2026_Welsh.pdf%3Ffbclid%3DIwcGRvZgFleHRuA2FlbQIxMABzcnRjBmFwcF9pZBAyMjIwMzkxNzg4MjAwODkyAAEeJc4BAs-WxerYBvQ2uOOi-liO_xezor0q1giGKFzr_sXyG0gbEJ38zA3QWZw_aem_uNtKmn3GCe_6Mhsd8hsL6w&h=AUCloPh0of3XRg8-pEguoGA_T_-kw2Y4cXDgIMJsvhBJIvDVgZKUrdEWy4SFw5oDCaZUuXCXubr8i6AIrC0G6SCL1LcixgVlBg8iXEFj27w-f7Am_e_T1wLEOCJhYvjTyiNahMBJa5LuJw&__tn__=-UK*F

ac yn Saesneg
https://resources.awen-wales.com/Ogwr_History_Month_Programme_2026_English.pdf

Address

Bridgend
CF31

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cymdeithas Hanes Bro Ogwr posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cymdeithas Hanes Bro Ogwr:

Shortcuts

Share