03/03/2026
Dydd Gwener, 6 Mawrth, 1-5pm, yn Neuadd Brechfa, SA32 7RA, ynghylch cynlluniau ar gyfer Coedwig
from: Katy Simmons Uwch Swyddog Cyfathrebu (NRW)
Cyfathrebu, Cwsmer a Masnach
Rhif ffĂ´n 07971 089154
Rwy'n e-bostio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith adfer yn dilyn Storm Darragh, a chwythodd goed drosodd dros 650 hectar ar draws de-orllewin Cymru ym mis Rhagfyr 2024.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn gweithredu rhaglen cynaeafu ac ailblannu fesul cam a fydd yn parhau dros y tair i bum mlynedd nesaf i ddelio â difrod y storm.
Cynaeafu ac ailblannu fesul cam
Mae tua 200 hectar o goed wedi'u chwythu gan y gwynt eisoes wedi'u hymgorffori yng ngweithrediadau cynaeafu presennol CNC, tra bod 450 hectar arall wedi'u mapio a'u trefnu ar gyfer adfer fesul cam.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio'n ofalus i gydbwyso diogelwch, cadwraeth, a sefydlogrwydd y farchnad bren, gan sicrhau bod adferiad yn gynaliadwy ac nad yw'n llethu cadwyni cyflenwi lleol.
Bydd pob ardal yn cael ei chlirio a'i hailblannu, gyda diogelwch, cynaliadwyedd, a diogelu'r amgylchedd yn llywio pob cam o'r rhaglen.
Sesiynau galw heibio
Rydym yn cynnal dwy sesiwn galw heibio iâr cyhoedd ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno dysgu mwy am y gwaith adfer yn sgil y storm.
Dydd Iau, 5 Mawrth, 1-5pm, yn Neuadd Pumsaint, SA19 8US - ynghylch cynlluniau ar gyfer Caio a Chwm Rhaeadr
Dydd Gwener, 6 Mawrth, 1-5pm, yn Neuadd Brechfa, SA32 7RA, ynghylch cynlluniau ar gyfer Coedwig Brechfa
Byddem yn croesawu eich cymorth i wneud cynifer o bobl â phosibl yn ymwybodol o'r sesiynau galw heibio hyn ac annog pobl i fynychu.
I'r rhai nad ydynt yn gallu mynychu, mae gennym wybodaeth am bob ardal ar-lein gyda chyfle i bobl godi unrhyw gwestiynau neu roi sylwadau ar y cynlluniau: https://bit.ly/AdferiadYnSgilStormDarragh
Ein timau
Mae ein timau Gweithrediadau Coedwig a Rheoli Tir yn y de-orllewin yn parhau i gydbwyso gwaith adfer coed a chwythwyd drosodd â gwaith rheoli coedwigoedd o ddydd i ddydd ar draws Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, syân 10,900 hectar o faint.
Mae ein ffocws yn parhau i fod ar ddiogelwch y cyhoedd, rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, a diogelu cynefinoedd a nodweddion treftadaeth pwysig.
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus wrth i ni weithio i adfer y coetiroedd hyn. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen
Find and participate in consultations run by Natural Resources Wales