30/05/2026
🌿💚 Cefnogi iechyd meddwl drwy natur, symud a chysylltu 💚🌿
Mae Elliw a’i Gweithiwr Allweddol wedi bod yn gwneud y mwyaf o deithiau lles lleol a gweithgareddau garddio fel rhan o’i thaith llesiant 🌱🚶♀️
Gall treulio amser yn yr awyr agored, bod yn actif a chysylltu â natur gael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd meddwl. Boed hynny drwy fynd am dro, plannu blodau neu gael amser a lle i siarad, gall y pethau bach yma wneud gwahaniaeth mawr 🌼
Maent hefyd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ar ein gardd gymunedol, gan helpu i greu gofod awyr agored croesawgar a deniadol i’n holl drigolion ei fwynhau dros fisoedd yr haf sydd i ddod ☀️🌻
Yn GISDA, rydym yn deall fod llesiant yn edrych yn wahanol i bawb, ac rydym yn falch o gefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i strategaethau ymdopi iach, adeiladu trefn a magu hyder mewn ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw.
Rydym yn hynod falch o Elliw a’r cynnydd mae hi’n parhau i’w wneud 💛
---------
🌿💚 Supporting mental health through nature, movement & connection 💚🌿
Elliw and her Key Worker have been making the most of local wellness walks and gardening activities as part of her wellbeing journey 🌱🚶♀️
Spending time outdoors, getting active and connecting with nature can have such a positive impact on mental health. Whether it’s going for a walk, planting flowers or simply having time and space to talk, these small moments can make a big difference 🌼
They have also been working together on our community garden, helping to create a welcoming and inviting outdoor space for all of our residents to enjoy during the upcoming summer months ☀️🌻
At GISDA, we understand that wellbeing looks different for everyone, and we are proud to support young people to find healthy coping strategies, build routines and improve confidence in ways that work for them.
We’re incredibly proud of Elliw and the progress she continues to make 💛