Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind

Call Directions Website Contact the organisation

Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn darparu cefnogaeth ymarferol i blant ac oedolion sy'n byw efo nam golwg ledled Gogledd Cymru.

The North Wales Society of the Blind provides support to children and adults with sight loss throughout North Wales.

Daeth 13 aelod ynghyd i sgwrsio a rhannu straeon yn ein cyfarfod o Glwb Cymorth Golwg Hafan Cefni, Llangefni ar Hydref 1...
14/10/2026

Daeth 13 aelod ynghyd i sgwrsio a rhannu straeon yn ein cyfarfod o Glwb Cymorth Golwg Hafan Cefni, Llangefni ar Hydref 13, 2026. ClwydAlyn
(fersiwn Saesneg hefyd)
Rhoddodd un o'n haelodau, Cherry, sgwrs hynod ddiddorol i ni am ei hanturiaethau ar gwch ar Afon Tafwys.
Roedd yn ddiddorol dros ben ac fe'i mwynhawyd yn fawr gan bawb—diolch, Cherry!
Roeddem hefyd yn falch iawn o groesawu Bethan o Medrwn Môn, a alwodd heibio i ddweud helo a rhoi cipolwg i ni ar y gefnogaeth wych maen nhw'n ei gynnig ar draws yr ynys. Fel cyngor gwirfoddol sirol Cyngor Sir Ynys Môn, mae Medrwn Môn yn gweithio i rymuso ein cymunedau lleol.
Tynnodd Bethan sylw at rai o'u hadnoddau gwerthfawr, gan gynnwys Môn Community Link a Car Linc Môn—gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol hanfodol sy'n helpu trigolion i fynychu clybiau, mynd i apwyntiadau meddygol, neu gael mynediad diogel i'r gymuned pan nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn.
Yn dilyn sgwrs Bethan, cawsom drafodaeth grŵp ynghylch gwasanaethau golwg lleol a'r ffordd orau o gael mynediad atynt.
Roedd yn ddiwrnod prysur iawn ond llawn gwybodaeth ddefnyddiol i bawb.
Rydym eisoes yn edrych ymlaen at ein cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd!
Byddwn yn croesawu Sarah Lowry, sy'n arbenigo mewn asesiadau 'Low Vision Service Wales' (Gwasanaeth Golwg Isel Cymru) a ariennir gan y GIG. NHS
Bydd Sarah yn siarad â'r clwb am wasanaethau golwg isel yn y cartref, sy'n canolbwyntio ar wneud y mwyaf o annibyniaeth gartref gan ddefnyddio chwyddwydrau arbenigol, goleuadau wedi'u teilwra, a chymhorthion gweledol ymarferol.
Welwn ni chi i gyd ym mis Tachwedd!
Am ragor o wybodaeth am y Clwb Cymorth Golwg (Sight Support Club) yn Llangefni, cysylltwch â Bethan Sage Williams ar 01248 353604.

We had a wonderful turnout on Tuesday, October 13, with 13 members coming together to catch up, chat, and share stories ...
14/10/2026

We had a wonderful turnout on Tuesday, October 13, with 13 members coming together to catch up, chat, and share stories at our Sight Support Club at Hafan Cefni, Llangefni.
(fersiwn Cymraeg hefyd)
One of our members, Cherry, treated us to a fascinating talk about her adventures on a boat on the River Thames. It was incredibly interesting and thoroughly enjoyed by everyone—thank you, Cherry!
We were also delighted to welcome Bethan from Medrwn Môn, who stopped by to say hello and give us an insight into the fantastic support they offer across the island. As the county voluntary council for Ynys Môn, Medrwn Môn works to empower our local communities.
Bethan highlighted some of their invaluable resources, including Môn Community Link and Car Linc Môn—a vital community transport service that helps residents attend clubs, get to medical appointments, or safely access the community when public transport isn't an option.
Following Bethan’s talk, we had a group discussion regarding local vision services and how to best access them.
It was a very busy but highly informative day for everyone.
We are already looking forward to our next meeting in November!

Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn sefydlu grŵp cymdeithasol newydd i bobl sy’n byw gyda nam ar eu golwg yn ardal ...
13/10/2026

Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn sefydlu grŵp cymdeithasol newydd i bobl sy’n byw gyda nam ar eu golwg yn ardal Caernarfon.
Mewn rhannau eraill o Ogledd Cymru – Bangor, Porthmadog, Bae Colwyn a Llangefni - mae’r grwpiau hyn wedi dod yn gynyddol boblogaidd.
Maent yn cynnig lle croesawgar i bobl rannu profiadau, cefnogi ei gilydd, ac i dreulio amser gyda phobl eraill sy’n deall heriau byw gyda nam ar eu golwg.
Mae llawer o’n haelodau yn dweud wrthym ba mor werthfawr yw’r grwpiau hyn.
Dywedodd un o aelodau ein grŵp ym Mae Colwyn: “Mae ein grŵp yn wych — rydym i gyd wedi dod yn ffrindiau da iawn. Mae gennym siaradwyr gwadd ar bob math o bynciau diddorol, ac weithiau rydym yn gwneud sesiynau crefft, neu’n eistedd gyda’n gilydd i rannu profiadau.
“Mae’n le ardderchog i wneud ffrindiau newydd ac i siarad â phobl eraill sy’n deall nam ar eu golwg. Rwyf wedi cael cymaint o awgrymiadau a chynghorion gan eraill ers ymuno, ac rwy’n edrych ymlaen at fynd bob mis.”
Er mwyn sicrhau bod unrhyw grŵp newydd yng Nghaernarfon yn ystyrlon ac yn adlewyrchu’r hyn rydych chi ei eisiau, rydym yn trefnu sesiwn anffurfiol i gael eich barn yn Lle Arall, Llety Arall 9 Stryd y Plas Caernarfon Gwynedd LL55 1RR dydd Mawrth 3 Tachwedd 10:30yb.
Croeso cynnes i chi ddod draw.
Os yn bosibl, a wnewch chi ffonio Bethan ar 01248 353604 i roi gwybod eich bod yn bwriadu dod, fel y gallwn sicrhau bod digon o seddi a lluniaeth ar gael i bawb.
Byddem wrth ein boddau’n yn eich croesawu chi yno ac yn clywed eich barn.

The North Wales Society of the Blind is establishing a new social group for people living with sight loss in the Caernar...
13/10/2026

The North Wales Society of the Blind is establishing a new social group for people living with sight loss in the Caernarfon area.
(Fersiwn Cymraeg hefyd)
In other parts of North Wales – Bangor, Porthmadog, Colwyn Bay, and Llangefni – similar groups have become increasingly popular.
They offer a welcoming space for people to share experiences, support one another, and spend time with others who understand the challenges of living with sight loss.
Many of our members tell us just how valuable these groups are.
A member of our Colwyn Bay group said: “Our group is brilliant — we’ve all become very good friends. We have guest speakers on all sorts of interesting topics, and sometimes we do craft sessions or sit together to share experiences.
“It’s a great place to make new friends and talk to other people who understand sight loss. I’ve picked up so many tips and pieces of advice from others since joining, and I look forward to going every month.”
To ensure that any new group in Caernarfon is meaningful and reflects what you want, we are organising an informal session to gather your views at Lle Arall, Llety Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RR, on Tuesday, 3 November at 10:30am.
You are very welcome to come along.
If possible, please call Bethan on 01248 353604 to let us know you intend to come, so that we can ensure there are enough seats and refreshments for everyone.
We would be delighted to welcome you there and hear your views.

🖌️ Mae arddangosfa hyfryd o waith aelodau ein Clwb Celf a Chrefft ar gael yn Llyfrgell Bangor tan o leiaf ddiwedd y mis....
13/10/2026

🖌️ Mae arddangosfa hyfryd o waith aelodau ein Clwb Celf a Chrefft ar gael yn Llyfrgell Bangor tan o leiaf ddiwedd y mis.
(Sgroliwch lawr i gael fersiwn Saesneg)
🎨 Mae'r clwb yn cael ei redeg gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind ac mae'r aelodau i gyd yn ddall neu'n byw gyda nam golwg.
🖌️ Yr arweinydd medrus yw'r artist Lydia Mary Fernandez-Arias.
Agorwyd yr arddangosfa ddechrau’r mis a bydd yna tan o leiaf y mis nesaf os nad mwy.
🎨 Mae croeso ichi ddod i weld y gwaith neu hefyd i holi am ein gwasanaeth llyfrau llafar Cymraeg GWRANDO sydd ar gael yn y llyfrgell. Llyfrgelloedd Gwynedd Libraries
🖌️ Mae croeso i unrhyw un sy'n ddall neu sy'n byw gyda nam golwg i ymuno â'r clwb drwy ffonio Bethan Williams ar 01248 353604 neu anfon at [email protected]
🎨 Mae'r clwb yn cyfarfod yn Nhŷ Cyfarfod y Crynwyr, Bangor bob pedwerydd dydd Iau yn y mis.
🖌️Dyma ychydig o luniau o aelodau’r clwb yn ymarfer y gelfyddyd Tsieineaidd o baentio â brwsh a chael cân fach tra mae nhw wrthi!
-------------------------------------
🎨 An exhibition of beautiful creative work by members of our Art and Craft Club is on display at Bangor Library until at least the end of the month.
🖌️ The club is run by Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind, and all the members are blind or living with sight loss.
🎨 The skilled leader is the artist Lydia Mary Fernandez-Arias.
The exhibition opened at the beginning of the month and will remain on display until at least next month, if not longer.
🖌️ You are welcome to come and view the work or to ask about our Welsh-language audio books service, GWRANDO, available at the library. Llyfrgelloedd Gwynedd Libraries
🎨 Anyone who is blind or living with sight loss is welcome to join the club by calling Bethan Williams on 01248 353604 or emailing [email protected]
🖌️ The club meets at the Quaker Meeting House, Bangor, on the fourth Thursday of every month.
🎨 Here are a few photos of club members practising the Chinese art of brush painting—and singing a little song while they work!

Mae para-saethydd, sy’n gweithio gyda’r deillion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau arbennig yn Llundain heno....
12/10/2026

Mae para-saethydd, sy’n gweithio gyda’r deillion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau arbennig yn Llundain heno.(12.10.26)

(Fersiwn Saesneg hefyd)

Mae Nick Thomas, 48, o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, wedi’i gofrestru yn ddall ac yn gweithio fel swyddog datblygu gyda Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind ym Mangor, Gwynedd.

Daeth yn bencampwr para-saethyddiaeth y byd yn Ne Corea fis Medi y llynedd gan ennill medal aur.

A’r llynedd hefyd enillodd Nick wobr ‘Athletwr Hyn y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Chwaraeon Byw’n Iach Gwynedd Healthy Lifestyles Gwynedd 2025 yn Galeri (Caernarfon).

Meddai Nick: “Waw, am anrhydedd a braint!!

“Rwyf wrth fy modd yn cyhoeddi fy mod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr am gyflawniad unigol rhagorol yng ngwobrau chwaraeon anabledd 'Variety the Children's Charity of Great Britain' eleni.

“Rwy'n edrych ymlaen at noson y gwobrau heno, ac yn gyffrous i gwrdd â'r holl athletwyr a phobl ysbrydoledig eraill a fydd yn bresennol. Dymunwch bob lwc i mi!”

A para-archer who works with blind people has been shortlisted for a special award in London tonight. (12.10.26)(Fersiwn...
12/10/2026

A para-archer who works with blind people has been shortlisted for a special award in London tonight. (12.10.26)

(Fersiwn Cymraeg hefyd)

Nick Thomas, 48, from Talysarn, Dyffryn Nantlle, is registered blind and works as a development officer with Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind in Bangor, Gwynedd.

He became the world para-archery champion in South Korea in September last year, winning a gold medal.

And last year, Nick won the ‘Senior Athlete of the Year’ award at the Byw’n Iach Gwynedd Healthy Lifestyles Sports Awards at Galeri (Caernarfon).

Nick said: “Wow, what an honour and a privilege!!

“I am delighted to announce that I have been shortlisted for the outstanding individual achievement award at this year’s disability sports awards hosted by Variety the Children's Charity of Great Britain.

“I am looking forward to tonight's awards ceremony and am excited to meet all the other athletes and inspiring people who will be attending. Wish me luck!”

Mae Bethan Richards yn fam, yn wraig, yn gynhyrchydd radio ac yn gantores. Mae hi hefyd yn ddall.(Fersiwn Saesneg hefyd)...
07/10/2026

Mae Bethan Richards yn fam, yn wraig, yn gynhyrchydd radio ac yn gantores. Mae hi hefyd yn ddall.
(Fersiwn Saesneg hefyd)
Yn y podlediad 'Meddwl yn Wahanol' ar BBC Sounds, mae Bethan yn sgwrsio gyda tri o bobol sydd, fel hithau, yn anabl.
Dyma’r ail gyfres lle bydd Bethan yn sgwrsio gyda Paiul Davies, Hollie Crooks a Gwennan Young sydd hefyd yn ddall.
Meddai Bethan: “Dyma straeon gafaelgar, emosiynol ac amrwd, sydd yn dathlu buddugoliaethau bywyd ac yn herio’r delweddau o ‘anabledd’.
“Mae'n gyfres llawn hwyl, gyda ambell ddeigryn bach. Straeon pobol, negeseuon pwysig, rhannu profiadau, a dysgu o’n gilydd.”
Mae'r podlediad hwn yn Gymraeg ond mae trawsgrifiad llawn ar gael.
Dyma glip o’r sgwrs gyda Gwennan i roi blâs ar y cynnwys.
Mae sgyrsiau gyda tri pherson arall o’r gyfres gyntaf hefyd ar gael ar BBC Sounds.
https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p0p1z2gv

Lluniau: Bethan gyda Paul Davies, Hollie Crooks a Gwennan Young

Bethan Richards is a mother, a wife, a radio producer, and a singer. She is also blind.(Fersiwn Cymraeg hefyd)In the pod...
07/10/2026

Bethan Richards is a mother, a wife, a radio producer, and a singer. She is also blind.
(Fersiwn Cymraeg hefyd)
In the podcast 'Meddwl yn Wahanol' (Thinking Differently) on BBC Sounds Bethan chats with three people who, like her, are disabled.
This is the second series, in which Bethan chats with Paul Davies, Hollie Crooks, and Gwennan Young, who is also blind.
Bethan says: “These are gripping, emotional, and raw stories that celebrate life’s victories and challenge perceptions of ‘disability’.
“It’s a fun-filled series, with the odd tear or two. People’s stories, important messages, sharing experiences, and learning from one another.”
This podcast is in Cymraeg, but a full transcript is available.
Here is a clip from the conversation with Gwennan to give you a taste of the content.
Conversations with three other people from the first series are also available on BBC Sounds.
https://www.bbc.co.uk/sounds/play/p0p1z2gv

Address

325, Stryd Fawr
Bangor
LL571YB

Opening Hours

Monday 10am - 4pm
Tuesday 10am - 4pm
Wednesday 10am - 4pm
Thursday 10am - 4pm
Friday 10am - 4pm

Telephone

+441248353604

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind:

Shortcuts

Share