28/09/2026
Colli cyfaill a hoelen wyth Menter Gymunedol Llanuwchllyn
Yn dilyn y newyddion torcalonnus am Huw Antur ddydd Sadwrn, hoffem ni, fel pwyllgor a gwirfoddolwyr Menter Gymunedol Llanuwchllyn, dalu teyrnged i Huw – cyd-weithiwr, cyfaill annwyl a rhywun a roddodd gymaint ohono’i hun i bentref a chymuned Llanuwchllyn.
O’r cychwyn cyntaf, roedd Huw wrth galon ac yn greiddiol i’r ymgyrch i sefydlu Menter Gymunedol Llanuwchllyn ac i achub Yr Eagles fel ased cymunedol. Roedd ei frwdfrydedd, ei ffydd yn y gymuned a’i ymroddiad di-flino yn hollbwysig i wireddu’r weledigaeth honno. Heb ei waith cydwybodol a’i ddyfalbarhad, ni fyddai’r Fenter lle mae hi heddiw.
Fel ysgrifennydd, roedd cyfraniad Huw yn aml yn dawel ac y tu ôl i’r llenni, ond roedd yn gyson, trylwyr a diflino. Roedd hyn yn nodweddiadol o’i ymwneud â llu o gymdeithasau, mentrau a gweithgareddau eraill yn yr ardal hefyd, lle’r oedd ei waith a’i ymroddiad mor greiddiol i’w llwyddiant a’u ffyniant parhaus.
Roedd Huw’n poeni’n ddwfn am y pentref, am ffyniant y gymuned, yr iaith a diwylliant Cymraeg, ac roedd yn barod i roi ei amser a’i egni i wneud popeth o fewn ei allu i’w cefnogi.
Mae ei gyfraniad wedi gadael marc parhaol ar y Fenter ac ar y gymuned, a byddwn yn parhau â’r gwaith gyda’r un ymrwymiad, a gyda’r gwerthoedd a’r weledigaeth yr oedd Huw mor angerddol amdanynt.
Mae colli Huw yn golled enfawr i ni fel Menter, ond hefyd i Lanuwchllyn, i’r ardal ac i Gymru. Yn anad dim, rydym wedi colli cyfaill – rhywun caredig, hael ei amser, cymwynasgar a dibynadwy, ac un y byddwn yn gweld ei eisiau’n fawr.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i Bethan, Gruffudd, Marged, Anwen a’r teulu ehangach yn ystod yr amser trist hwn.