Hen Goleg

Hen Goleg Adeilad mwyaf eiconig Aberystwyth, cartref prifysgol gyntaf Cymru, ac yn awr ar fin ailddatblygiad m

Am droMae'n fraint cerdded o amgylch yr Hen Goleg a gweld y cynnydd o un wythnos i’r nesaf.Fyny fry ar y tŵr, ac mae'r s...
02/06/2026

Am dro

Mae'n fraint cerdded o amgylch yr Hen Goleg a gweld y cynnydd o un wythnos i’r nesaf.

Fyny fry ar y tŵr, ac mae'r sgaffaldiau'n dod i lawr.

Wrth i’r lloriau ddod i lawr bob yn un, mae ffenestri newydd yn cael eu gosod a'r gwaith carreg yn cael ei adfer lle'r oedd y sgaffaldiau wedi'u clymu i’r tŵr neu’n agos at waliau.

Mae'r gwaith o ail-doi to crwn dros hen ddarlithfa De Seddon, a fydd yn sinema maes o law, hefyd wedi'i gwblhau.

Mae hyn yn golygu y gellir gostwng y sgaffaldiau er mwyn cwblhau rhan olaf to plwm De Seddon.

Un peth yn arwain at y llall.

Mae'r gwaith carreg ar dalcennau Gogledd Seddon, sy'n edrych dros Stryd y Brenin, hefyd bron â'i gwblhau gyda dargludyddion mellt bellach yn eu lle.

Ac, islaw, ar yr un ochr, mae cerrig unigol yn cael eu torri â llaw fel rhan o'r gwaith adfer.

Ac mae blychau ystlumod a phibellau draenio haearn bwrw newydd yn eu lle hefyd.

Y tu mewn i De Seddon, mae grisiau'n cael eu peintio, lloriau newydd yn mynd lawr, goleuadau'n cael eu gosod a nenfydau'n mynd i’w lle, ac mae teils ar waliau'r toiledau.

Mae'r gwaith o beintio’r Cwad wedi dechrau, ac yn yr atriwm, mae llawr concrit yr ystafell ddigwyddiadau newydd fawreddog yn ei le.

Oedd, roedd hi'n boeth wythnos diwethaf, ond parhaodd y cynnydd ar y safle.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

Heddiw rydyn ni'n rhannu Casgliad Athrawon Aber: 12 cartŵn o ddarlithwyr Prifysgol Aberystwyth yn dyddio o 1910. Roedd y...
28/05/2026

Heddiw rydyn ni'n rhannu Casgliad Athrawon Aber: 12 cartŵn o ddarlithwyr Prifysgol Aberystwyth yn dyddio o 1910.

Roedd yr artist, Ap Rhobert (ei enw go iawn oedd Howard Lloyd Roberts), yn ffigwr adnabyddus yn yr ardal. Roedd yn Athro Celf yn Ysgol Sirol Machynlleth ar droad yr ugeinfed ganrif. Yn y blynyddoedd wedyn, bu’n rhedeg busnes bwyd a becws yn ei bentref genedigol, y Borth, â’i gartwnau i’w gweld yn ei ffenestr siop.

Er bod y darn papur newydd canlynol yn cyfeirio at arddangosfa o waith gwahanol, mae'n crynhoi arddull artistig unigryw Ap Rhobert yn daclus:

“Yn ogystal â’i fedr diamheuol fel artist, gellir gweld yng ngwaith Mr Roberts fod ganddo gynneddf arsylwi gref, ac yn y rhan fwyaf o’i bortreadau mae wedi llwyddo i amlygu, mewn ffordd dra effeithiol, naill ai ystum nodedig neu ryw nodwedd neilltuol arall yn natur neu wisg yr unigolyn sy’n cael ei ddarlunio. Mae Mr Roberts yn anad dim yn ddyn o hiwmor, a gellir darogan â sicrwydd na fydd neb yn mwynhau ei luniau dychan yn fwy na gwrthrychau’r lluniau eu hunain.”

Edrychwn ymlaen at daflu goleuni ar lawer mwy o unigolion blaenllaw yn eu meysydd trwy gyfrwng y rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd a gynhelir yn yr Hen Goleg pan fydd yn agor.

📷1- Yr Athro Fleur
📷2- Yr Athro Edward Edwards
📷3- Yr Athro Edward Annwyl
📷4- Yr Athro Jenkin Jones
📷5- Prifathro J F Roberts
📷6- Yr Athro Thomas Arthur Levi
📷7- Yr Athro T Stanley Roberts
📷8- anhysbys
📷9- anhysbys
📷10- Yr Athro Hermann Ethe
📷11- Yr Athro John Wilson Marshall

Rhagor o wydr lliwWrth i'r gwaith ddechrau ar adfer y ffenestri gwydr lliw, mae'n werth oedi am eiliad ac edrych i mewn ...
26/05/2026

Rhagor o wydr lliw

Wrth i'r gwaith ddechrau ar adfer y ffenestri gwydr lliw, mae'n werth oedi am eiliad ac edrych i mewn drwy'r ffenestr sgwâr, gron neu fwaog; chi sy'n cael dewis y tro hwn.

Mae arolwg manwl gan y cwmni adfer ffenestri lliw blaenllaw Holy Well Glass wedi nodi'r gwahanol fathau o wydr a gwaith plwm sydd ym mhob ffenestr, eu cyflwr a'r gwaith sydd ei angen i’w hadfer.

Mae ffenestri o bob lliw a llun yma.

Mae paneli ‘trefoil’, ‘cinquefoil’ a ‘sexfoil’, a ‘quatrefoil’ cwsp dwbl.

Ac mae cyfres o ffenestri rhosyn gyda ffenestri crwn bychain a phanel canolog mwy i’w gweld yn wal allanol yr Ystafell Seddon sy’n wynebu’r môr.

Er nad ydynt mor amlwg o’r tu allan, mae'r lliwiau a welir o'r tu mewn mor fywiog ag erioed.

Mae plu Tywysog Cymru i’w gweld ar ffenestri uwchlaw ambell ddrws, a ffenestri gafodd eu hachub o weddillion tân 1885 uwchlaw’r Cwad.

Ac yna mae dylanwad Art Nouveau ar ffenestr swyddfa’r porthorion wrth y brif fynedfa.

Bydd y rhan fwyaf yn cael eu hadfer yn eu lle a gwydr neu blwm newydd yn cael eu gosod yn ôl yr angen.

Bydd hynny'n golygu y bydd dros 1000 o ffenestri wedi cael eu hadfer wrth i ni roi bywyd newydd i'r Hen Goleg.

O, ac mae gargoeliau a grotesgau hefyd, ond daw cyfle eto i drafod rheini.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

Ffenestri lliwMae’r gwaith o adfer y ffenestri lliw wedi dechrau.Mae'n cael ei wneud gan gwmni Ark Stained Glass, arbeni...
19/05/2026

Ffenestri lliw

Mae’r gwaith o adfer y ffenestri lliw wedi dechrau.

Mae'n cael ei wneud gan gwmni Ark Stained Glass, arbenigwyr yn y maes.

Eu tasg gyntaf oedd tynnu'r bum ffenestr wydr lliw fyny fry yn y Llyfrgell sy’n wynebu'r môr.

Cafodd y ffenestri, sy’n cynnwys darnau hyd at 1.5m o hyd, eu tynnu allan yn llwyddiannus mewn diwrnod ac yna eu cludo i weithdy Ark yn Droitwich.

Yno, byddant yn cael eu stripio a'u glanhau, a'r gwaith peintio cywrain yn cael ei wirio cyn eu hailadeiladu i’w cyflwr gwreiddiol gan ddefnyddio plwm newydd.

Ac, fel sy’n wir am gymaint o'r gwaith ar yr Hen Goleg, bydd yr amgylchedd arfordirol llym yn llywio'r broses adfer fel y gall y ffenestri wrthsefyll yr elfennau am flynyddoedd i ddod.

Edrychwn ymlaen at eu croesawu’n ôl.

Rydym eisoes wedi sôn am y pyst carreg sy'n amgylchynu'r ffenestri a sut maent wedi symud dros y blynyddoedd.

Fel rhan o'r gwaith adfer, bydd rhodenni dur gloyw yn cael eu hychwanegu at y pyst er mwyn sefydlogi'r adeilad cyn i'r ffenestri ddychwelyd.

Wedi i hyn gael ei wneud, gellir gwerthfawrogi’r ffenestri’n llawn gan y bydd modd tynnu'r trawst derw a osodwyd ar eu traws 60 mlynedd a mwy yn ôl i sefydlogi’r adeilad.

Yn y cyfamser, wyddech chi mai gwydr lliw o’r oesoedd canol oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer offeryn a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer taith Asiantaeth Ofod Ewrop i'r blaned Mawrth yn 2028?

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

Roedd Olive Marsh yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1898 a 1900, yn byw yn Neuadd Alexandra yn ystod ei chyf...
14/05/2026

Roedd Olive Marsh yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1898 a 1900, yn byw yn Neuadd Alexandra yn ystod ei chyfnod yn hyfforddi i fod yn athrawes.

Mae ei llythyrau at ei dyweddi, yr Arglwydd Josiah Charles Stamp, a roddwyd i'r Brifysgol ym 1939, yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd myfyrwyr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trwy gydol eu hastudiaethau, ysgrifennodd y cwpl at ei gilydd bob dydd gan bostio llythyrau ddwywaith yr wythnos.

Mewn llythyr a anfonwyd ym mis Mai 1939, myfyriodd yr Arglwydd Stamp ar bwysigrwydd parhaol cyfnod Olive yn Aberystwyth, gan ysgrifennu:

"Nid ydym ein dau erioed wedi rhoi'r gorau i fod yn ddiolchgar am bopeth y mae ei phrofiad o Aber: wedi ei olygu yn ystod ein bywydau, ac rydym yn edrych gyda diddordeb a theimladau cynnes ar y bywyd a’r gobaith newydd sy’n llifo’n ddiderfyn wrth i’r naill genhedlaeth ar ôl y llall gamu o’r Neuadd i’r Coleg ger y Lli"

Y Neuadd ArholiadauWnaethoch chi sefyll arholiad yma?Ac a wnaethoch chi erioed edrych i fyny rhwng cwestiynau a meddwl p...
12/05/2026

Y Neuadd Arholiadau

Wnaethoch chi sefyll arholiad yma?

Ac a wnaethoch chi erioed edrych i fyny rhwng cwestiynau a meddwl pam na chafodd y bwâu eu gorffen?

I ddatblygwr Gwesty'r Castell, Thomas Savin, hon oedd yr ystafell eistedd fawr gydag ystafelloedd gwely ar y llawr uwchben.

Achosodd cwymp ariannol Savin ym Medi 1866 i'r gwaith ar y prosiect cyfan ddod i ben a chafodd y gwaith o gerfio’r cerrig byth mo’i orffen.

Ond, mae rhan fechan yn rhoi cipolwg ar yr hyn a fwriadwyd.

Yn ogystal â'r arholiadau, daeth yr Hen Neuadd yn lleoliad poblogaidd ar gyfer darlithoedd cyhoeddus y Brifysgol a digwyddiadau.

Fel rhan o'r trawsnewidiad i leoliad newydd gwych ar gyfer arddangosfeydd teithiol a gweithgareddau cymunedol, mae'r gwaith carreg yn cael ei lanhau ofalus iawn gan Swansea Decorating Services.

Ac, unwaith eto, daw’r lliwiau gwreiddiol i’r golwg wrth i'r haenau paent gael eu tynnu'n ofalus.

Gyda llaw, bu rhaid aros tan 1892 cyn i’r llyfrgell gael ei chwblhau.

Ym 1928, ysgrifennodd Iwan Morgan: “Roedd y Neuadd Arholiadau bresennol yn anghyflawn a pharhaodd heb do am 25 mlynedd, a bu rhaid aros tan ar ôl y tân i’w chwblhau – gwasanaethodd fel tomen ludw a chwt ffolws, a chartref i gytref o jac-y-dos a cholomennod swnllyd!”.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

12/05/2026
Y rhaglen wirfoddoli yn cynnig profiad ymarferol o dreftadaeth a sgiliau yn y byd go iawn Rydym wedi bod wrth ein bodd y...
11/05/2026

Y rhaglen wirfoddoli yn cynnig profiad ymarferol o dreftadaeth a sgiliau yn y byd go iawn
Rydym wedi bod wrth ein bodd yn ehangu ein cyfleoedd gwirfoddoli, gan roi profiad ymarferol i fyfyrwyr o weithio ‘y tu ôl i'r llenni’ ym meysydd treftadaeth a chasgliadau.
Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, lansiwyd ein cyfres 5-rhan o weithdai Rheoli Casgliadau, gan roi cyfle i 15 o fyfyrwyr gael profiad o ddysgu ymarferol gan gynnwys trin gwrthrychau, pacio, paentio cadwraethol, ac ymateb i drychinebau. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys ymweliadau unigryw i edrych ‘y tu ôl i'r llenni’ yn Amgueddfa Ceredigion a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Eleni, datblygodd y gyfres eto gyda sesiynau newydd ar Gynllunio Arddangosfeydd a Chatalogio Casgliadau, a’r nifer a gymerodd ran yn codi i dros 30 o fyfyrwyr o blith ystod eang o bynciau.

O Gelfyddyd Gain i Wyddoniaeth a Busnes, mae myfyrwyr yn ennill sgiliau treftadaeth gwerthfawr ochr yn ochr â'u hastudiaethau.
Mae ein casgliadau hefyd wedi agor drysau i brofiadau dysgu unigryw. O ganlyniad i’r gwaith adnabod cwrelau yng nghasgliad byd enwog Stephenson bu cydweithio ag arbenigwyr o'r Amgueddfa Hanes Naturiol, a ymwelodd ag Aberystwyth i weld y casgliad a chynnal gweithdy adnabod cwrel. Cafodd myfyrwyr cadwraeth y cyfle prin i weithio'n uniongyrchol gyda'r gwrthrychau gwerthfawr hyn.

Dyma enghraifft wych o sut y gall casgliadau treftadaeth ysbrydoli, meithrin cyswllt a chyfoethogi dysgu myfyrwyr ac edrychwn ymlaen at allu darparu mwy o'r cyfleoedd hyn pan fydd yr Hen Goleg yn agor.

Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru

07/05/2026

Yr Hen Goleg o’r awyr Rydym newydd dderbyn y lluniau drôn diweddaraf o’r Hen Goleg oddi wrth ein prif gontractiwr, Andrew Scott Cyf.

Wedi eu cynhyrchu gan Buffoon Media, mae’n gyfle i weld y cynnydd gwych ar y safle.

Treftadaeth y Loteri Genedlaethol / National Lottery Heritage Fund - Cymru

☀️Calan Mai yw’r dathliadau a geir ar ddiwrnod cyntaf mis Mai yng Nghymru ac mae’n nodi dechrau’r haf, tymor a lenwir yn...
01/05/2026

☀️Calan Mai yw’r dathliadau a geir ar ddiwrnod cyntaf mis Mai yng Nghymru ac mae’n nodi dechrau’r haf, tymor a lenwir yn draddodiadol â choelcerthi, canu, dawnsio a dathlu twf newydd.☀️

Mae hefyd yn cael ei alw’n Galan Haf, ac roedd y cyfnod hwn o'r flwyddyn ar un adeg yn cael ei groesawu gyda cherddi Mai (carolau Mai), dawnsio haf, ac addurno tai gyda blodau a gasglwyd o'r gwrychoedd. Byddai cymunedau'n dod at ei gilydd i ddathlu'r tir a thyfiant y tymhorau.

Yn aml byddai'r traddodiadau'n dechrau'r noson cynt, ar Nos Galan Haf, gyda choelcerthi yn cael eu goleuo i groesawu'r haf. Ystyrid y noson hon fel Ysbrydnos gan ychwanegu elfen o ddirgelwch ac arwyddocâd i'r dathliadau.

Address

Stryd Y Brenin
Aberystwyth
SY232AU

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Hen Goleg posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Hen Goleg:

Share