26/08/2026
🇮🇪⛺ Gwersyll Haf yn Iwerddon | Summer Camp in Ireland!⛺🇮🇪
⚜️ Cafodd ein Scouts antur anhygoel yr haf hwn wrth deithio i Iwerddon a gwersylla yn Larch Hill! Ymunodd ein Scouts â 1af Llandysul ar gyfer gwersyll ar y cyd, gan wneud y daith hyd yn oed yn fwy arbennig 🏕️🤝
Dechreuodd yr antur ddydd Mercher gyda thaith fferi o Gaergybi i Iwerddon ⛴️, cyn archwilio’r safle ddydd Iau, cwblhau llwybr cyfeiriannu a chymryd rhan mewn gemau gwaith tîm 🧭🤝
Ddydd Gwener, ymwelodd y Scouts â’r National Museum of Ireland yn y bore cyn roi cynnig ar sledio glaswellt yn y prynhawn! 🏛️🌿 Ddydd Sadwrn, rhoddodd y Scouts rywbeth yn ôl i’r safle drwy gwblhau prosiectau i’w wella, gan gynnwys torri coeden oedd wedi cwympo, glanhau’r ardal tân, defnyddio peiriant golchi pwysedd uchel a chloddio ffordd ehangach ar dro hairpin 🪵🔥
Ddydd Sul, cafodd pawb ddiwrnod gwych yn Sw Dulyn, yn gweld rhai o’r anifeiliaid anhygoel sydd yno 🦁🐘🦒 Cyn teithio’n ôl adref ddydd Llun, gorffennwyd penwythnos llawn antur, gwaith tîm ac atgofion gwych! 💚
⚜️ Our Scouts had an amazing summer adventure travelling to Ireland and camping at Larch Hill! We joined 1st Llandysul for a joint camp, making the trip even more special 🏕️🤝
The adventure began on Wednesday with a ferry from Holyhead to Ireland ⛴️, followed by a site exploration day on Thursday, including an orienteering trail and team-building games 🧭🤝
On Friday, the Scouts visited the National Museum of Ireland in the morning before having a go at grass sledging in the afternoon! 🏛️🌿 On Saturday, the Scouts gave something back to the site by taking part in projects to help improve it, including cutting up a fallen tree, cleaning the fireplace area, pressure washing and digging a wider road on a hairpin 🪵🔥
Sunday was spent at Dublin Zoo, seeing all the amazing animals there 🦁🐘🦒 Before travelling home on Monday, we finished off an incredible camp full of adventure, teamwork and brilliant memories! 💚
ScoutsCymru Larch Hill Scout Centre