09/10/2026
Mae’n swyddogol, mae ein cyfres podlediad newydd sbon wedi lansio!
Rydym yn falch o rannu ein pennod gyntaf yn ein cyfres newydd, sydd ar gael i wrando heddiw.
Gwrandewch yn awr ar ein gwefan, Apple Podcasts neu Spotify.
🎧 NiwrowahaniaethCymru.org: https://neurodivergencewales.org/cy/podlediad/
🎧 Apple Podcasts: https://podcasts.apple.com/us/podcast/podlediad-niwrowahaniaeth-cymru-neurodivergence-wales-podcast/id6814523994
🎧 Spotify: https://open.spotify.com/show/0yaG6ILPzEbA8n23CDNQIL?si=sfy1t_MDS3GK8MSwcHq4GA
Mae ein pennod gyntaf yn cynnwys Lucy Hemmings, Arweinydd Awtistiaeth Cyngor Gwynedd, mewn sgwrs gyda Dr Luke Beardon, am sut y gall gweithwyr proffesiynol fod yn fwy niwrogadarnhaol yn eu gwaith bob dydd.
Gyda’i gilydd, maent yn archwilio profiad bywyd go iawn, dilysrwydd awtistig, diwylliant y gweithle, tuedd diarwybod ac addasiadau rhesymol, herio hen dybiaethau ac ystyried ffyrdd ymarferol o greu amgylcheddau sy’n ddiogel ac yn gynhwysol yn seicolegol.
Mae gwell dealltwriaeth o niwrowahaniaeth yn gyfrifoldeb ar bawb. Os ydych chi’n gweithio mewn addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, cyflogaeth neu leoliad arall - neu eisiau cael mwy o ddealltwriaeth a pherthnasoedd cynhwysol gyda phobl niwrowahanol yn eich bywyd - mae’r sgwrs hon yn berthnasol i chi ac yn cynnig mewnwelediad ymarferol i sut all ymarfer niwrogadarnhaol edrych mewn lleoliadau bob dydd.
Gwrandewch heddiw, rhannwch y bennod gyda’ch cydweithwyr, rhwydweithiau, ffrindiau a theulu, a dilynwch y gyfres wrth i ni ddysgu gyda’n gilydd a helpu i greu Cymru fwy niwrogynhwysol.