Bois Y Gilfach

Bois Y Gilfach Mae Bois y Gilfach yn barti o fechgyn o Geredigion sy'n canu yn y Gymraeg, gan ddiddanu cynulleidfaoedd a chodi a***n at elusennau (a joio!).

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!
01/03/2026

Dydd Gŵyl Dewi Hapus!

Mae bron yn Ddydd Gŵyl Dewi! Dewch i ymuno yn y dathlu nos Wener yma yng nghwmni'r bois a Dawnswyr Talog yn Neuadd Lland...
25/02/2026

Mae bron yn Ddydd Gŵyl Dewi! Dewch i ymuno yn y dathlu nos Wener yma yng nghwmni'r bois a Dawnswyr Talog yn Neuadd Llandysul.

01/01/2026
I le, dwedech, aeth blwyddyn arall? Blwyddyn arall o ganu, cymdeithasu, tynnu coes a codi a***n at achosion da. Diolch i...
01/01/2026

I le, dwedech, aeth blwyddyn arall? Blwyddyn arall o ganu, cymdeithasu, tynnu coes a codi a***n at achosion da. Diolch i bawb am pob cefnogaeth a diolch yn arbennig i Heledd am gadw trefn arnom ni! Edrychwn ni mlaen at eich gweld chi yn 2026 - Blwyddyn Newydd Dda!

21/12/2025

Mae wythnos wedi mynd heibio ers i ni gyflwyno ein gwasanaeth Nadolig i eglwys lawn yn Llanerchaeron. Dyma ddetholiad o'r caneuon a oedd yn rhan o'r gwasanaeth. Diolch yn fawr i Elfed Jenkins am greu'r fideo. Mwynhewch!

15/12/2025

Diolch yn fawr i bawb ddaeth i'n hoedfa Nadolig yn Eglwys Llanerchaeron heddi. Roedd hi mor braf gweld yr eglwys yn llawn.
Diolch hefyd am bob cyfraniad i'n casgliad er budd yr Uned Ddialysis yn Ysbyty Bronglais. Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi bod dros £1,200 wedi'i gasglu, sy'n swm anhygoel. Diolch i bawb am eu haelioni.

06/12/2025

Byddem yn falch iawn o gael eich cwmni yn ein hoedfa Nadolig ddydd Sul 14 Rhagfyr am 2pm yn Eglwys Llanerchaeron. Dewch i fwynhau awr fach o ganu a darlleniadau yng nghwmni'r bois.

Address

Tafarn Y Gilfach
Mydroilyn

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Bois Y Gilfach posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share