17/06/2026
📢Cyfle swydd - Ceidwad Rhwydweithiau Natur📢
Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd
Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2028
Dyddiad cau y swydd - Dydd Mercher 24 o Fehefin 2026
Mae cyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i natur drwy Brosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd. Gyda’r nod o wella cynefinoedd glaswelltir calchfaen yng ngogledd Bryniau Clwyd (rhan o Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy) drwy gynyddu bioamrywiaeth a chysylltedd rhwng safleoedd gwarchodedig drwy adfer, ymestyn a chreu cynefinoedd newydd. Bydd y swydd yn ymgysylltu’n weithredol â chymunedau a grwpiau i godi ymwybyddiaeth, gwerthfawrogiad a chyfranogiad ar y safleoedd gwarchodedig.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y ddolen ⬇️
https://workfor.denbighshire.gov.uk/jobdescriptions/PCCS/00050E2LDE.pdf
Ariennir y swydd yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru
Cronfa Treftadaeth y Loteri Gen / National Lottery Heritage Fund - Cymru Welsh Government