10/09/2026
What if food became much more expensive, harder to find, or less reliable?
Join us at Hanging Gardens, Llanidloes, on Monday 14th September, 7pm for an evening with Daphne Du Cros, food policy researcher, Marches farmer, and Director of the Shropshire Good Food Partnership.
Whilst we live in a farming community, that does not mean our food is secure. Most of what we eat still depends on long supply chains, transport, fuel, energy and imports. Recent years have shown how quickly those systems can be disrupted by extreme weather, rising costs, conflict, cyber attacks and delays.
So how prepared are we?
Daphne will explore what food resilience means in practice, sharing practical examples from across the UK of how households, farmers, shops, cafés, food banks, councils and community groups can work together so everyone can access good food, even when times are difficult.
This talk is for anyone who cares about local food, rising costs, community wellbeing, and how Llanidloes looks after itself in difficult times. We have a strong tradition of mutual support. This evening is a chance to build on this strength, ask what we can do now, and make sure we are better prepared to face future food shocks together.
Beth petai bwyd yn dod yn llawer drutach, yn fwy anodd i gael, neu’n llai dibynadwy?
Dewch i ymuno â ni yn Hanging Gardens, Llanidloes, nos Iau 25 Mehefin am 7 o’r gloch am noson ddifyr a phryfoclyd yng nghwmni Daphne Du Cros – ymchwilydd polisi bwyd, ffermwraig o’r Gororau, a Chyfarwyddwraig Partneriaeth Bwyd Da Swydd Amwythig.
Er ein bod yn byw yng nghanol ardal amaethyddol, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod ein bwyd yn ddiogel. Mae llawer o’r hyn sy’n cyrraedd ein platiau’n dal i ddibynnu ar gadwyni cyflenwi hir, trafnidiaeth, tanwydd, ynni a mewnforion. Ac mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos mor hawdd y gall pethau gael eu tarfu – boed hynny oherwydd tywydd eithafol, costau byw cynyddol, gwrthdaro, ymosodiadau seibr neu oedi annisgwyl.
Felly, pa mor barod ydym ni fel cymuned?
Bydd Daphne yn edrych ar beth mae gwytnwch bwyd yn ei olygu mewn gwirionedd. Bydd hi’n rhannu straeon ac enghreifftiau ymarferol o bob cwr o’r DU, gan ddangos sut y gall cartrefi, ffermwyr, siopau, caffis, banciau bwyd, cynghorau a grwpiau cymunedol gydweithio i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar fwyd da – hyd yn oed pan fo amseroedd yn anodd.
Mae’r noson hon ar gyfer unrhyw un sy’n poeni am fwyd lleol, prisiau sy’n codi, lles ein cymuned, a sut mae Llanidloes yn edrych ar ôl ei hun pan fydd pethau’n anodd. Rydyn ni’n ffodus o fod yn rhan o dref sydd â thraddodiad cryf o dynnu at ei gilydd a chefnogi ei gilydd.
Felly dewch draw i wrando, i holi cwestiynau, i rannu syniadau, ac i feddwl gyda’n gilydd am beth allwn ni ei wneud nawr i sicrhau ein bod yn fwy parod i wynebu unrhyw heriau bwyd a allai ddod yn y dyfodol.
Bydd croeso cynnes i bawb.