Eich Parc

Eich Parc Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from Eich Parc, Environmental conservation organisation, Pencadlys Awdurdod y Parc Cenedlaethol Parc Llanion, Doc Penfro.

18/06/2025
Helpwch ni i ddysgu mwy am natur ac iechyd meddwl yn eich ardal. Mae GreenMe yn fenter ledled Ewrop sy’n archwilio’r cys...
16/06/2025

Helpwch ni i ddysgu mwy am natur ac iechyd meddwl yn eich ardal.

Mae GreenMe yn fenter ledled Ewrop sy’n archwilio’r cysylltiad rhwng iechyd meddwl a natur. Cynhelir astudiaethau cyfochrog mewn nifer o wledydd yn gofyn am ein barn ar sut y gallai natur ein helpu gyda’n hiechyd meddwl. Yn y DU, canolbwyntir ar farn pobl sy’n byw yn Sir Benfro, ac yn enwedig y rhai sy’n byw yn y parthau a amlygir ar y map sydd ynghlwm.

Ymunwch â ni drwy lenwi’r arolwg sydd wedi’i atodi neu drwy ddefnyddio’r cod QR ar y poster.

https://universityofkent.qualtrics.com/jfe/form/SV_cOdxdxxRNmIRXuK?Q_Language=cy

19/05/2025
13/05/2025

Rydym yn recriwtio!

Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau

Ydych chi'n berson gonest sy'n gwneud penderfyniadau da ac sy'n barod i weithio fel rhan o dîm i wrando ar dystiolaeth, ei deall a'i phwyso a'i mesur, cyn cyrraedd safbwynt gwrthrychol?

Mae ein Pwyllgor Safonau yn rhoi mewnbwn gwerthfawr i’r gweithdrefnau a’r protocolau y mae’r rhaid i Aelodau’r Awdurdod eu dilyn, ac mae recriwtio pobl sydd â’r sgiliau a’r agweddau cywir yn allweddol i lwyddiant y Pwyllgor.

Mae'r Awdurdod yn bwriadu penodi aelod annibynnol ac mae'n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb yng ngwaith y Parc Cenedlaethol. 5 mlynedd yw tymor y swydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y rôl hon ar gael yn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Swyddi: 👉 https://swyddi.arfordirpenfro.cymru/

Dyddiad cau: 27 Mai 2025

👉

09/05/2025
03/05/2025
03/05/2025
23/04/2025

Mae Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru bron yma!

📅 Gan ddechrau dydd Llun 28 Ebrill, mae'n gyfle i ddathlu dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, gan gysylltu disgyblion â'r byd o'u cwmpas mewn ffyrdd creadigol, ymarferol.

✨ Byddwn yn rhannu syniadau ac ambell sypreis i'ch helpu chi i fynd â'r cwricwlwm yn yr awyr agored - p'un a ydych chi newydd ddechrau neu eisoes yn dysgu'n seiliedig ar natur.

09/03/2025

Mae grŵp Cenhedlaeth Nesaf Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn mynd i goedwig Mynwar i grwydro’r safle a mynd i’r afael â Darllen Mapiau! 🗺️

Bydd y grŵp yn coginio cinio o amgylch y tân ac yn cael y cyfle cyntaf i roi eu henw i lawr am ddigwyddiadau arbennig sydd ar y gweill!

🗓️Dydd Sadwrn 22 Mawrth 10am – 4pm
🧭Sgiliau cyfeiriannu a Choginio yn yr Awyr Agored yng Nghoedwig Mynwar
🚌Bydd trafnidiaeth ar gael o sawl lleoliad
🍲Darperir bwyd a lluniaeth

*Does dim toiled yn y safle*

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan?

Cysylltwch â Maisie: 👉[email protected] – i fod ar y rhestr ar gyfer ein diwrnod gweithgaredd nesaf.

Address

Pencadlys Awdurdod Y Parc Cenedlaethol Parc Llanion
Doc Penfro
SA72 6DY

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Eich Parc posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Organisation

Send a message to Eich Parc:

Share