27/05/2026
Crynodeb o’r Pythefnos Gofal Maeth 💜
Am bythefnos Gofal Maeth gwych – amser hyfryd i ddod at ein gilydd, dathlu, a dal i fyny gyda chymaint ohonoch chi.
Rydym wedi mwynhau amrywiaeth gwych o weithgareddau, gan gynnwys diwrnod o hwyl yn Fferm Ymddiriedolaeth Amelia gyda'n teuluoedd, dawnsio salsa egnïol, taith gerdded adfywiol ar draws y morglawdd, a’r te prynhawn blasus yn ein digwyddiad dathlu. Mae wedi bod yn arbennig treulio amser gyda'n gilydd a chydnabod y gymuned faethu anhygoel sydd gennym.
Rydym hefyd wedi bod allan yn yr ardal leol, yn codi ymwybyddiaeth o faethu a rhannu'r gwahaniaeth y gall ei wneud ym mywydau plant. Diolch yn fawr i'n gofalwyr maeth anhygoel sydd wedi ein cefnogi gyda hyn.
Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r pythefnos – rydyn ni mor falch o'r gymuned hon 💜