29/05/2026
CELF – TE – CACEN / ART – TEA – CAKE
Y penwythnos olaf i ymweld! / Last weekend to visit!
🎨 ☕ 🍰 🌿 🏔️ 💛
Mae amser o hyd i ymweld ag arddangosfa hardd Art Tea Cake eleni yng Nghanolfan Llwynihirion, Brynberian — ond dim ond tan ddydd Sul 31 Mai.
Gyda Bryniau’r Preseli yn gefndir godidog, mae’r arddangosfa yn dod â phaentiadau, cerameg, cerflunwaith, ffotograffiaeth, printiau, gwaith pren, llyfrau artist a gosodiadau ynghyd gan artistiaid o ogledd Sir Benfro a thu hwnt, oll wedi eu hysbrydoli gan dirwedd, cynefin a chysylltiad dwfn â lle.
Gall ymwelwyr hefyd fwynhau te, coffi a chacen yn y caffi cymunedol sy’n edrych dros yr ardd beillwyr a’r golygfeydd eang dros y mynyddoedd — y lle perffaith i oedi, sgwrsio a mwynhau’r awyrgylch.
Yn bwysicaf oll, mae pob ymweliad yn helpu cefnogi Canolfan Llwynihirion ei hun. Mae’r caffi a’r arddangosfa yn helpu codi a***n hanfodol i gynnal a gofalu am y ganolfan gymunedol annwyl hon yng nghalon Brynberian.
Os ydych wedi bod yn bwriadu dod draw, dyma’r penwythnos olaf i ymweld, cefnogi’r Ganolfan a dathlu creadigrwydd lleol yn un o gorneli harddaf Sir Benfro.
📍 Canolfan Llwynihirion, Brynberian
📅 Ar agor tan ddydd Sul 31 Mai
🕚 Bob dydd 11yb–5yp
💛 Mynediad am ddim
Croeso cynnes i bawb.
———
There’s still time to visit this year’s beautiful Art Tea Cake exhibition at Canolfan Llwynihirion, Brynberian — but only until Sunday 31st May.
Set against the stunning backdrop of the Preseli Hills, the exhibition brings together paintings, ceramics, sculpture, photography, printmaking, woodcraft, book arts and installations by artists from north Pembrokeshire and beyond, all inspired by landscape, cynefin and a deep connection to place.
Visitors can also enjoy tea, coffee and delicious cake in the community café overlooking the pollinator garden and sweeping mountain views — a perfect place to pause, meet friends and soak up the atmosphere.
Most importantly, every visit helps support Canolfan Llwynihirion itself. The café and exhibition help raise much-needed funds to care for and sustain this much-loved community space at the heart of Brynberian.
If you’ve been meaning to come, this is the final weekend to visit, support the Canolfan and celebrate local creativity in one of the most beautiful corners of Pembrokeshire.
📍 Canolfan Llwynihirion, Brynberian
📅 Open now until Sunday 31st May
🕚 Daily 11am–5pm
💛 Free entry
A warm welcome to all.