10/06/2026
Hysbysiad o benodi o'r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Cymuned Cwarter Bach
Blwyddyn a***nnol sy'n dod i ben 31 Mawrth 2026
1. Dyddiad cyhoeddi 10fed Mehefin 2026
2. Bob blwyddyn mae'r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd â diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copïau o'r cyfrifon a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy'n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gweithio ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:
Y clerc
d/o Swyddfa'r Bost
Canolfan Y Mynydd Du
Brynaman.
SA18 2QB
Ebost: [email protected]
rhwng oriau 10yb a 3yp o ddydd Llun i ddydd Gwener
gan ddechrau 06 Gorffennaf 2026
ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2026
3. O 14 Medi 2026, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi'i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a'u cynrychiolwyr hefyd:
• yr hawl i holi'r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon.
• yr hawl i fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i'r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i'r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o'r hysbysiad ysgrifenedig i'r cyngor hefyd.
Gellir cysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol drwy: Archwiliadau Cynghorau Cymuned, Archwilio Cymru, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu drwy e-bost yn [email protected].
Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Hawliau etholwyr o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Yn ôl y gyfraith, gall unrhyw un archwilio cyfrifon y cyngor. Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol, mae gennych chi (neu rywun sy'n gweithredu ar eich rhan) yr hawl hefyd i ofyn cwestiynau i'r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon ac i godi gwrthwynebiadau ffurfiol.
Arolygu'r cyfrifon
Unwaith y bydd y cyngor wedi cwblhau ei gyfrifon, rhaid iddo hysbysebu eu bod ar gael i'w harchwilio. Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, gallwch archwilio'r cyfrifon a'r dogfennau ategol am 20 diwrnod gweithio. Gellir gofyn am gopïau, er y gallai fod tâl copïo am hyn.
Gofyn cwestiynau i'r archwilydd
Dim ond am y cyfrifon sy'n destun archwiliad y gellir gofyn cwestiynau. Nid oes rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol ateb cwestiynau am bolisïau, penderfyniadau neu weithdrefnau'r cyngor oni bai eu bod yn ymwneud yn uniongyrchol â'r cyfrifon, ac nid oes rhaid iddo ddweud a yw rhywbeth yn gyfreithlon neu'n rhesymol.
Gwrthwynebu'r cyfrifon
Os ydych chi'n credu bod y cyngor wedi gwario a***n yn anghyfreithlon, neu fod rhywun wedi achosi colled a***nnol yn fwriadol neu drwy ymddygiad anghyfrifol, gallwch wrthwynebu. Rhaid gwneud gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig i'r Archwilydd Cyffredinol, egluro'r rhesymau'n glir, a rhaid anfon copi at y cyngor hefyd. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn penderfynu pa gamau, os o gwbl, i'w cymryd. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn apelio i'r llysoedd. Gallwch hefyd wrthwynebu os ydych chi'n credu bod problem yn y cyfrifon y dylid ei adrodd yn gyhoeddus er budd y cyhoedd. Ni ellir defnyddio'r broses hon i wneud cwynion neu hawliadau personol.
Ffyrdd eraill o godi pryderon
Yn hytrach na gwneud gwrthwynebiad ffurfiol, gallwch ddarparu gwybodaeth i'r Archwilydd Cyffredinol os ydych chi'n credu bod gwallau yn y cyfrifon neu bryderon am wastraff neu aneffeithlonrwydd. Nid oes unrhyw weithdrefnau na dyddiadau cau penodol ar gyfer gwneud hyn.
Gwybodaeth bwysig
Mae'r gost o ddelio â chwestiynau a gwrthwynebiadau yn cael ei dalu gan drethdalwyr lleol. Dim ond materion sydd er budd y cyhoedd y bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn ymchwilio. Os byddwch yn mynd â mater i'r llys, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu eich costau eich hun.
Cysylltwch
Cysylltwch ag Archwilydd Cyffredinol CymruArchwiliadau Cyngor Cymuned, Archwilio Cymru1 Capital Quarter, Stryd TyndallCaerdydd, CF10 4BZ